Menter Iaith

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

 

Hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau

Newyddion 2

HANNER CAN DIWRNOD I FYND CYN CYCHWYN EISTEDDFOD 2010

HANNER CAN DIWRNOD I FYND CYN CYCHWYN EISTEDDFOD 2010
Dim ond hanner can diwrnod sydd i fynd cyn i giatiau’r Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy agor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, sy’n cychwyn gyda’r cyngerdd agoriadol, nos Wener 30 Gorffennaf eleni.

Gyda thir Y Gweithfeydd eisoes yn cael ei drawsnewid er mwyn creu cartref ar gyfer y Brifwyl eleni, mae’r trefi cyfagos hefyd wedi dechrau paratoi ar gyfer ein hymweliad drwy godi fflagiau drwy’r strydoedd, er mwyn dangos croeso’r Cymoedd i’r miloedd o ymwelwyr a fydd yn cyrraedd yr ardal yn ystod mis Awst eleni.

Heddiw, mae’r Eisteddfod yn lansio pecyn arbennig er mwyn helpu busnesau’r ardal i farchnata’u gwasanaethau a’u cynnyrch i Eisteddfodwyr. Bydd y pecyn busnes yn cael ei ddosbarthu i gwmnїau a busnesau ar hyd a lled yr ardal a’i fwriad yw cynnig cyngor, gwybodaeth ac ychydig o ymadroddion Cymraeg. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ddeunyddiau hyrwyddo er mwyn i’r siopau a’r busnesau fod yn rhan o fwrlwm yr ŵyl dros yr wythnosau nesaf.

Erbyn hyn, mae fflagiau pinc yr Eisteddfod wedi’u gosod mewn trefi ym Mlaenau Gwent, ac mae trefnwyr yr Eisteddfod yn annog busnesau a thrigolion yr ardal i ddangos eu cefnogaeth i’r Eisteddfod trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch Ffoli ar Fflagiau. Bwriad yr ymgyrch hon, a drefnir ar y cyd gydag ymgyrch Y Cymoedd, Calon ac Enaid Cymru, yw darparu fflagiau a phosteri’n rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw yn nalgylch yr Eisteddfod ac sy’n awyddus i gefnogi ac i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal. Gellir archebu’r fflagiau o wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts:

“Mae’n anodd credu mai dim ond hanner can diwrnod sydd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni. Mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan heibio, ac mae’r gefnogaeth gan y bobl leol, yn drigolion, gwirfoddolwyr, busnesau a sefydliadau ar hyd a lled y dalgylch wedi cynyddu a lledaenu, ac mae pawb wedi cydweithio mor galed i sicrhau bod yr ardal yn dangos ei chefnogaeth i’r Brifwyl.
“Felly, hanner can diwrnod sydd gennym ar ôl i annog gweddill Cymru i ddod i Flaenau Gwent, i’w hannog nhw i fod yn rhan o Ŵyl a fydd, yn sicr, yn wahanol i’r Eisteddfod y llynedd, ac i’w hannog nhw i fod yn rhan o’r bwrlwm a’r hwyl a fydd yn eu disgwyl yma’n Y Gweithfeydd.

“Mae gennym gyfres o gyngherddau gyda rhai o sêr blaenaf Cymru, gan gynnwys Rhydian Roberts, Aled Jones, Only Men Aloud a John Owen-Jones, gydag amrywiaeth o genres a pherfformiadau o bob math ar lwyfan y Pafiliwn gyda’r nos. Bydd Maes B hefyd yn lwyfan i fandiau gorau Cymru, gyda thua 40 ohonyn nhw’n perfformio’n ystod yr wythnos, gan gywnnyws pobl fel Elin Fflur, Cate Le Bon, Bryn Fôn a Derwyddon Dr Gonzo.

“Braf hefyd yw cydweithio gydag Academi eto ar raglen Maes C, a bydd y Stomp yn sicr o fod yn un o uchafbwyntiau’r wythnos i lawer o Eisteddfodwyr – gyda Tebot Piws a Meic Stephens hefyd yn sicr o ddenu cynulleidfaoedd i Barc Bryn Bach, lle cynhelir y nosweithiau eleni.

“Mae’r ymateb lleol wedi bod yn arbennig iawn – pawb yn awyddus i fod yn rhan o’r Eisteddfod - ac yn eiddgar i groesawu gweddill y genedl i’r ardal. Ein gwaith, nawr, yw annog pawb arall i ddod i’n gweld. Dyma’r tro olaf y daw’r Eisteddfod i Flaenau Gwent oherwydd cynlluniau adfywio, felly dewch draw, o bob cwr o’r wlad, er mwyn ei gwneud yn wythnos ardderchog ac er mwyn sicrhau bod yr ardal arbennig yma’n gweld ac yn mwynhau cefnogaeth gweddill Cymru ymhen hanner cant o ddyddiau.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst. Mae’r Maes yn gyfleus ar gyfer ymwelwyr o bob rhan o Gymru, gyda chysylltiad hawdd gyda phriffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddeugain munud o ganol Caerdydd, mae Glyn Ebwy yn awr o daith o Abertawe, ac yn ddwy awr a chwarter o ardal Dolgellau.
Mae’r Ŵyl yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Brifwyl am bris tocyn Maes dyddiol.

Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Eleni, yn ogystal, derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau’r Cymoedd i’n galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
10/06/2010

Godi arian tuag at Ysgolion Gymraeg Rhyd y Grug a Santes Tudful a’r Ganolfan Gymraeg

Bydd yna gyfle gwych i godi arian tuag at Ysgolion Gymraeg Rhyd y Grug a Santes Tudful a’r Ganolfan Gymraeg wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Glyn Ebwy eleni. Mae’r Ganolfan wedi sicrhau'r cytundeb i redeg meysydd parcio’r Eisteddfod ac mae angen nifer fawr o wirfoddolwyr i stiwardio. Am bob shifft a gweithiwyd fe fydd cyfle i ennill arian tuag at un o’r tri grŵp. Os fedrwch cyfranni gwpl o oriau dros yr wythnos a wnewch chi cysylltwch â Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr 01685 722176, jamie@merthyrtudful.com
07/06/2010

Ail-lansiad Noson Mewn Tafarn

Ail-lansiad Noson Mewn Tafarn
Y Fwydlen:

I ddechrau

Cawl pupur coch rhost a thomato
Gyda rhôl o fara crensiog
Madarch mewn briwsion bara
Gyda dip garlleg hufennog
Coctel corgimychiaid
Gyda bara gwenith cyflawn wedi’i dostio
Talpiau brie wedi’u ffrio’n ddwfn
Gyda salad bach ar yr ochr a saws llugaeron

Prif gyrsiau

Pastai stêc a chwrw
Pastai cartref gyda sglodion, taten drwy’i chroen, neu stwnsh colcannon a phys
Cyw iâr gwledig cartref
Cluniau cyw iâr, bacwn a madarch mewn saws gwin gwyn, gyda sglodion, taten drwy’i chroen, neu stwnsh colcannon a phys
Pupurau coch rhost wedi’u llenwi
Wedi’u gwneud gartref a’u llenwi gyda sbigoglys, ffeta a chwscws. Gyda salad bach â dresin a bara garlleg.
Pysgodyn a sglodion traddodiadol
Mewn cytew cwrw cartref a wnaed â llaw, ac yn dod gyda sglodion, pys a saws tartar

Pwdinau

Syndi hufen iâ siocled a chnau
Pwdin taffi gludiog
Crymbl afal a mwyar duon
Pwdin bara menyn
Pob un wedi’u gwneud gartref, gyda chwstard, hufen neu hufen iâ
09/06/2010

Gorsedd y Dreigiau

Gorsedd y Dreigiau
Os ydi chi'n ysu i ddechrau busnes eich hun, neu am ddatblygu syniad cyffrous o fewn busnes sydd wedi ei dechrau o fewn y pum mlynedd diwethaf ... wel, dyma'ch cyfle i ennill PUM MIL O BUNNOEDD a chyngor busnes i droi pethau'n realiti.

Am fwy o wybodaeth a rheolai'r gystadleuaeth ymwelwch â:
http://www.menterabusnes.com/cymraeg/5/ 500/gorsedd-y-dreigiau.html;jsessionid=E6 1191DB6586E33C0B63B20542C8A64C
03/06/2010

 

Digwyddiadau

Bore Coffi gyda Sian Lloyd
10:00
Dydd Gwener 24/09/2010
GLYN EBWY CGD, STRYD JAMES
BORE COFFI Dydd Gwener 24 Medi 2010 10.00yb - 11.00yb GLYN EBWY CGD STRYD JAMES CROESO I BAWB Am ragor o fanylion cysylltwch â Sarah Meek: Swyddog Datblygu Cymraeg i Oedolion – Blaenau Gwent 01495 355892 sarah.meek@bla enau-gwent.gov.uk

Clwb Darllen
1:00
Dydd Iau 30/09/2010
Llyfrgell Glyn Ebwy
Unwaith y mis yn Llyfrgell Glyn Ebwy Addas i ddysgwyr lefel sylfaen - Canolradd 30/09/2010, 04/11/2010, 02/12/2010, 20/01/2011, 17/02/2011, 24/03/2011, 05/05/2011, 09/06/2011

Coffi a Chlonc
1:00
Dydd Iau 07/10/2010
Brynmawr LAC
Unwaith y mis - Brynmawr LAC Croeso i bawb! 7/10/2010, 11/11/2010, 09/12/2010, 27/01/2011, 03/03/2011

Eisteddfod 2010

 

 

Menter Iaith
Blaenau Gwent,
Torfaen a Mynwy
2 Adeiladau Portland
Stryd Masnach
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6JS

01495 762 446
077 28 90 7772

Blaenau Gwent  Torfaen  Sir Caerdydd

Cynghorau Sir Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Bwrdd yr Iaith Gymraeg
-